Gwirfoddoli

Mewn cyfnod pan mae gwasgu ar wariant cyhoeddus a’r argyfwng costau yn cael effaith ar bawb  – Mae gwirfoddoli, rhoi o’ch amser i helpu eraill, yn gyfraniad cymunedol gwerthfawr – yn ein helpu ni i helpu’n gilydd, yn enwedig pan na all gwasanaethau cyhoeddus wneud ar ein rhan.

Mae O Ddrws i Ddrws yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli mewn sawl maes yn cynnwys – danfon pobol i apwyntiadau, gwaith gweinyddol, cysylltiadau cyhoeddus/hyrwyddo a mwy. I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru diddordeb cysylltwch â Huw Ceiriog ar:

huw@oddrwsiddrws.cymru
neu 01758 721 777

 

Argraffwyd o www.oddrwsiddrws.cymru ar 31/10/2026 02:48:10.

Drws Agored, Stryd Y Plas, Nefyn LL53 6HP

Ffôn: 01758 721 777
Ebost: post@oddrwsiddrws.cymru