Stwna
Beth ydy Stwna?
Bwriad Stwna ydy cysylltu ag unigolion, mudiadau a sefydliadau lleol. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac yn ddilyniant i brosiect llwyddiannus Lôn i Les. Mae Stwna yna i helpu unigolion i hwyluso’r broses o geisio cychwyn hobi newydd. Wedi ei selio ar y Pum Cam i Lesiant, mae Stwna yn annog unigolion i gymryd camau ymarferol gyda’r nod o wella iechyd meddwl a lles.
Pum Cam i Lesiant:
- Cysylltu
- Rhoi
- Bod yn fywiog
- Bod yn sylwgar
- Dal ati i ddysgu
Plannu – Gwreiddio – Ffynnu
Bydd Stwna yno efo chi ar hyd y daith. Mi fyddwn ni yno i’ch helpu i blannu’r hedyn, i wreiddio eich syniadau ac yno i ddathlu eich llwyddiant o weld yr hobi yn ffynnu. Helpwch ni i sefydlu rhwydwaith o glybiau hobi ar draws yr ardal!
Helpwch ni i sefydlu rhwydwaith o glybiau hobi ar draws yr ardal!
Beth sy’n cael ei gynnig?
Bydd natur yr hobïau yn hollol ddibynnol ar eich diddordebau chi!
Efallai hoffech chi gychwyn clwb gwylio adar, ond ddim yn siŵr lle i ddechrau? Neu oes gennych chi blant sydd heb gychwyn yr ysgol eto, ac eisiau cyfarfod rhieni eraill sydd yn yr un sefyllfa?
Neu oes gennych chi amser i ddysgu sgil newydd i eraill? Efallai eich bod yn gallu chwarae golff, a gyda ‘chydig o amser sbâr i helpu i ddangos i eraill sut i gychwyn?
Dim ond syniad sydd angen, bydd Stwna’n eich helpu i wneud y gwaith trefnu!
Ym mha ardal?
Mae Stwna ar gael i helpu trigolion ardal Llŷn yng Ngwynedd. Gall O Ddrws i Ddrws eich cludo i gyfarfodydd a/neu safle’r hobi yn ogystal â mynd a chi adref.
Pam ddyliwn i gymryd rhan?
Dyma gyfle unigryw i gael help i wireddu eich syniad am hobi.
Hoffech chi:
- Gael y cyfle i drio rhywbeth newydd?
- Gael gweithgareddau am ddim?
- Weld mwy o gyfleoedd ar gael yn lleol?
- Gallu cysylltu â chymdeithasu ag eraill
- Roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned?
Manylion cyswllt
Cysylltwch â Lois am fwy o fanylion 07867 057850 neu stwna@oddrwsiddrws.cymru .
Cliciwch yma i fynd i’n tudalen Facebook ac Instagram.
Eich syniad chi, ein cefnogaeth ni
